Transport for Wales and Passenger to unify bus travel across the country
Passenger's major new partnership will deliver a new bus app and website for the TrawsCymru long-distance bus network.
14th Apr 2022
The new, multilingual TrawsCymru app and website will support the Welsh Government’s intent of achieving a bus system that boosts social equity and is capable of delivering the scale of modal shift needed to combat the climate emergency. TrawsCymru will launch on Passenger’s customer experience platform and utilise its journey planning, bus timetables and live vehicle tracking capabilities. Mobile app ticketing, complemented by ticket eCommerce on the website, will also help to provide a step-change in digital access to the TrawsCymru services.
TrawsCymru is an integral part of the bus network in Wales, providing links between major towns and cities and helping people connect to work, education, health and leisure destinations. Over the next few years, Transport for Wales will be introducing improvements to the network, low carbon vehicles, integration of Traws and rail ticketing and improving roadside infrastructure and information for passengers.
Tom Quay, CEO at Passenger commented: “We’re delighted to begin work with Transport for Wales at such an exciting time for the organisation. The Welsh government has highlighted the gradual decline in the bus industry in Wales over the years through its recent whitepaper ‘One network, one timetable, one ticket’. The whitepaper states that 25% of people in Wales do not have access to a car, and although the Welsh government has invested more than £100m each year in bus services, improvements have been challenging due to the legacy of bus service privatisation.
“It’s encouraging to see considerable efforts being made by the government to reverse this decline, with investment being channelled into public services to help more people get to where they need to go. Transport for Wales is driving this change, and we are delighted to support them with our expertise and technology, designed to make buses a more appealing and accessible mode of travel. Together, we believe we can make a significant difference in the way in which people travel throughout Wales.”
James Price, Chief Executive at Transport for Wales added: “Our new app and website for TrawsCymru represent a significant milestone in our plans to overhaul public transport in Wales, as we look to create a network which appeals to a much wider demographic.
“Our purpose is to progress the Welsh government’s vision of a stable, easy-to-use network of bus services that fully connects to other methods of public transport. We want to provide a reliable, affordable, flexible and low-carbon transport network that supports more people to use the bus instead of their cars – and our new TrawsCymru app and website will complement our ongoing efforts”.
Transport for Wales is set to launch its new app in July, followed by its website in August this year. For further information about Transport for Wales, visit https://tfw.wales/.
Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Passenger i uno teithiau bws ar hyd a lled y wlad
Mae’r darparwr technoleg trafnidiaeth gyhoeddus yn y DU, Passenger, wedi cyhoeddi partneriaeth newydd fawr gyda Trafnidiaeth Cymru wrth iddo baratoi i gyhoeddi ap a gwefan bysiau newydd ar gyfer ei rwydwaith bysiau pellter hir TrawsCymru.
Bydd ap a gwefan newydd, amlieithog TrawsCymru yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i sicrhau system bysiau sy’n hybu cydraddoldeb cymdeithasol ac sy’n gallu cyflawni’r newid moddol sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Bydd TrawsCymru yn lansio ar blatfform profiad cwsmeriaid Passenger ac yn defnyddio ei gyfleusterau cynllunio teithiau, amserlenni bysiau a’i allu i olrhain cerbydau’n fyw. Bydd tocynnau ar yr ap ac eFasnach tocynnau ar y wefan, hefyd yn helpu i sicrhau newid sylweddol o ran mynediad digidol at wasanaethau TrawsCymru.
Mae TrawsCymru yn rhan annatod o’r rhwydwaith bysiau yng Nghymru, gan ddarparu cysylltiadau rhwng prif drefi a dinasoedd a helpu pobl i gysylltu â lleoliadau gwaith, addysg, iechyd a hamdden. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno gwelliannau i’r rhwydwaith, cerbydau carbon isel, integreiddio tocynnau Traws a rheilffyrdd a gwella seilwaith ar ochr y ffordd a gwybodaeth i deithwyr.
Dywedodd Tom Quay, Prif Swyddog Gweithredol Passenger: “Rydyn ni’n falch iawn o ddechrau gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru mewn cyfnod mor gyffrous i’r sefydliad. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at y dirywiad graddol yn y diwydiant bysiau yng Nghymru dros y blynyddoedd drwy ei phapur gwyn diweddar ‘Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn’. Mae’r papur gwyn yn nodi nad oes gan 25% o bobl yng Nghymru gar at eu defnydd, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £100m bob blwyddyn mewn gwasanaethau bysiau, mae gwelliannau wedi bod yn heriol oherwydd bod gwasanaethau bysiau wedi cael eu preifateiddio.
“Mae’n galonogol gweld ymdrechion sylweddol yn cael eu gwneud gan y llywodraeth i wrthdroi’r dirywiad hwn, gyda buddsoddiad yn cael ei sianelu i wasanaethau cyhoeddus i helpu mwy o bobl i gyrraedd lle mae angen iddyn nhw fynd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyrru’r newid hwn, ac mae’n bleser gennym eu cefnogi gyda’n harbenigedd a’n technoleg, sydd wedi’u dylunio i wneud bysiau’n ffordd fwy deniadol a hygyrch o deithio. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n credu y gallwn ni wneud gwahaniaeth sylweddol yn y ffordd mae pobl yn teithio ledled Cymru.”
Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae ein ap a’n gwefan newydd ar gyfer TrawsCymru yn garreg filltir bwysig yn ein cynlluniau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, wrth i ni geisio creu rhwydwaith sy’n apelio at ddemograffeg ehangach o lawer.
“Ein pwrpas yw bwrw ymlaen â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael rhwydwaith sefydlog, hawdd ei ddefnyddio o wasanaethau bysiau sy’n cysylltu’n llawn â dulliau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni eisiau darparu rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, fforddiadwy, hyblyg a charbon isel sy’n cefnogi mwy o bobl i ddefnyddio’r bws yn hytrach na’u ceir – a bydd ein ap a’n gwefan TrawsCymru newydd yn ategu ein hymdrechion parhaus”.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn lansio ei ap newydd ym mis Gorffennaf, wedi’i ddilyn gan ei wefan ym mis Awst eleni. I gael rhagor o wybodaeth am Trafnidiaeth Cymru, ewch i https://trc.cymru/
Tags
Share this article
Newsletter
We care about protecting your data. Here’s our Privacy Policy.
Related news
Start your journey with Passenger
If you want to learn more, request a demo or talk to someone who can help you take the next step forwards, just drop us a line.